P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Parsons, ar ôl casglu cyfanswm o 1,096 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae gan Gymru lawer o enwau lleoedd sydd wedi'u Seisnigeiddio'n ddiangen, ac sydd yn aml wedi'u disodli gan ffurfiau Seisnigedig am ddim rheswm da. Nid yn unig y mae hyn yn amharchus i'r Cymry a'r iaith Gymraeg, ond mae'r Gymraeg, yn ôl y gyfraith, i fod ar sail gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru.

 

Mae defnyddio enwau llefydd fel Trevor (o'r gair Cymraeg Trefor) ger Wrecsam nid yn unig yn tanseilio, ond yn cuddio etymolegau enwau o'r fath! Mae hyn yn sicr yn annerbyniol.

 

Rwyf i, a'r rhai sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu Cynulliad Cymru i weithredu ac i newid y ffurfiau Seisnigaidd hyn o enwau Cymraeg, drwy Gymru gyfan, ac i adfer eu sillafiadau Cymraeg gwreiddiol. Nid yw'r ddeiseb yn mynd mor bell â gofyn am ddiddymu enwau Saesneg lle mae enw Cymraeg yn bodoli hefyd (Cardiff nesaf at Gaerdydd, ac ati).

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·         De Clwyd

·         Gogledd Cymru